Ro'n i'n hoffi esboniad Geraint Jones. Mae'n ymddangos, er bod 'na gymysgu rhwng y termau Saesneg cyfatebol, bod angen y tri therm - cerdyn talu, cerdyn credyd, cerdyn debyd. Glenys ----- Original Message ----- From: Tim Saunders To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 2:52 PM Subject: Re: Charge card O'r hyn a welais, cefais yr argraff fod 'charge card' yn berthynol i gyfrif gan gwsmer gyda manwerthwr penodol. Ond ni wn i fawr ddim am fyd masnach. ALl rhywun sy'n dallt y dalltings egluro? Tim -----Original Message----- From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]] Sent: 18 July 2002 13:28 To: [log in to unmask] Subject: Re: Charge card Yr argraff oedd gyda fi - a dyw hi ddim yn fwy gwyddonol nag argraff mae'n rhaid dweud - oedd bod 'charge card' yn cael ei arfer am gerdyn i'w ddefnyddio wrth siopa gyda chwmni penodol, fel Argos neu Comet neu Marks a Spencer neu beth bynnag, o'i gyferbynnu â cherdyn credyd (VISA, Mastercard etc) sy'n gallu cael ei ddefnyddio yn gyffredinol. ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 12:26 PM Subject: Re: Charge card O edrych yn frysiog ar y we, mae gofyn am "charge card" yn cynhyrchu nifer fawr o safleoedd yn ymwneud a cardiau credyd (cf. Termau Cyllid Delyth Prys, credit card - cerdyn credyd). A oes unrhyw wahaniaeth rhwng charge card a credit card - tybed a yw'r cyntaf yn derm mwy Americanaidd am y ail?? Ann 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK (01248) 371987 [log in to unmask] ----- Original Message ----- From: Glenys Roberts To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 11:13 AM Subject: Re: Charge card Ken - gan nad oes neb arall wedi neidio i'r adwy - rwy'n cofio gorfod cyfieithu hwn flynyddoedd yn ôl a defnyddio 'cerdyn talu' yn niffyg dim gwell. Ond tybed ydi o'r un peth â 'debit card'? Os felly, byddai 'cerdyn debyd' yn fwy dealladwy o bosib. Efallai y cawn ni oleuni gan rywun o fyd astudiaethau busnes. Glenys ----- Original Message ----- From: Kenneth Owen To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 10:21 AM Subject: Charge card Does dim golwg o 'charge card' yn yr archifau. Y mae'n gerdyn banc sy'n cael ei ddefnyddio, hyd y gwn i, i dalu am nwyddau a gwasanaethau heb ddefnyddio arian parod. Unrhyw gynigion? Ken Owen Marian-glas