All rywun gadarnhau beth yw'r teitl cywir
plīs? Dwi'n drysu'n lān rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y
Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol - mae'r cwbl i'w clywed ar
Radio Cymru o bryd i'w gilydd!
Dwi ddim yn sicr pryd y dylid defnyddio'r teitl
chwaith - mae'r dogfennau sy'n cyrraedd i gael eu cyfieithu yn eitha chwit chwat
ynghylch National Assembly of Wales a'r Welsh Assembly Government. Roeddwn
i dan yr argraff fod 'na wahaniaeth rhwng y 2 - ond mae nhw'n cael eu defnyddio
ar draws ei gilydd ym mhobman hyd y gwela' i.
Diolch am unrhyw oleuni
Catrin