Print

Print


>           ... Ond tybed ydi o'r un peth â 'debit card'?  Os felly,
> byddai 'cerdyn debyd' yn fwy dealladwy o bosib.  Efallai y cawn ni
> oleuni gan rywun o fyd astudiaethau busnes.

Na: a bod yn gywir dylai "charge card" fod yn wahanol i "debit card".

Mae cerdyn debyd yn talu allan o gyfrif sy'n cynnwys arian sy'n perthyn
i'r talwr; mae cerdyn talu yn codi dyled ar gyfrif sy'n perthyn i'r
banc, ac sydd yn gorfod cael ei dalu'n ôl (i gyd) i'r banc yn rheolaidd.
Mae defnyddiwyr cerdyn credyd os ydyn nhw'n gall yn ei ddefnyddio fel
cerdyn talu.

Wrth gwrs mae'r termau'n cael eu cam-ddefnyddio yn Saesneg.