Erfyn sy'n dewis rhan o'r llun neu ddogfen o fewn perimedr siap ( elips neu betryal fel arfer ) yw e. "Marquee" am fod popeth o fewn y babell - y llinell doredig - yn cael ei gynnwys. Dyw e ddim byd i wneud a'r arbewdr sgrin - ystyr "arwydd" sydd i marquee yn y cyd-destun 'na rwy'n credu. Rhywbeth fel "erfyn dewis amlinell/arwynebedd/o fewn perimedr" sydd eisiau. Neil Shadrach -----Original Message----- From: Nathan Alfred Spike GT /IT [mailto:[log in to unmask]] Sent: 27 June 2002 15:08 To: [log in to unmask] Subject: Re: Fw: marquee selection tool Beth am "offeryn dewis"? 'Dwi'm yn sïwr am y gair "marquee", wyt ti'n gwybod am beth mae o'n cael ei defnyddio yn y cyd-destun yma? Alf -----Original Message----- From: Geraint Lovgreen [mailto:[log in to unmask]] Sent: 27 June 2002 13:56 To: [log in to unmask] Subject: Fw: marquee selection tool Oes gan unrhyw un o gwbwl allan fan'na unrhyw syniad? ----- Original Message ----- From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, June 26, 2002 12:05 PM Subject: marquee selection tool > Sef Offer ar gyfrifiadur bwrdd gwyn sy'n caniatau llusgo > testun/delweddau o > un lle i'r llall ar dudalen - unrhyw gynigion plis? > > Ger >