'Creadigrwydd' sydd yng Ngeiriadur y Brifysgol (Rhan X, td 583) ac yn y Termiadur Ysgol. Gan fod 'creadigrwydd' eisoes wedi ymddangos yng Ngeiriadur y Brifysgol ym 1956, mae'n anodd dirnad pam yr aeth rhywun ati i fathu 'creadigedd', ond dyna'r ffurf sydd i'w gweld yng Ngeiriadur Termau Jac L ac yng Ngeiriadur yr Academi (ynghyd a^: 'gallu creadigol', 'dawn greadigol', 'cre(u)garwch' a 'creadigolrwydd' yn yr olaf). Wela i ddim bod rhyw lawer o wahaniaeth rhyngddyn nhw, a byddwn i'n tybio bod y ddwy ffurf yr un mor dderbyniol a^i gilydd. Er mai 'creadigrwydd' yw fy ffefryn i (o drwch blewyn), mae 'creadigedd' fel petai'n fwyfwy cyffredin erbyn heddiw. Efallai y dylen ni ymfalchio yn y ffaith fod gennym gynifer o ffurfiau posib! Berwyn ----- Original Message ----- From: Gwen Evans To: [log in to unmask] Sent: Friday, June 21, 2002 11:51 PM Subject: creadigolrwydd/creadigedd Mae'r gair 'creadigrwydd' gan Cysill. Ydy hwn yn cael ei dderbyn, os gwelwch yn dda ?