Arfer y Cynulliad yw defnyddio trafnidiaeth am transport, gan yr ystyrir bod y gair hwnnw yn cwmpasu mwy na chludo yn unig. Er hynny, pan fo hi'n amlwg mai cludo yn benodol sydd dan sylw e.e. school transport yna defnyddir cludiant. Y term a ddefnyddir ar gyfer "Road Traffic Act" yw Deddf Traffig y Ffyrdd (cf. Geiriadur y Gyfraith) ac "yr Adran Drafnidiaeth" a ddefnyddir yn ddiwahân ar gyfer "Department of Transport". W. Dyfed Rowlands Swyddfa'r Cwnsler Cyffredinol/OCG Cynulliad Cenedlaethol Cymru National Assembly for Wales 029 2082 6601 [log in to unmask] -----Original Message----- From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]] Sent: 18 June 2002 13:15 To: [log in to unmask] Subject: Transport/Traffic Wrth i Bruce ymateb i ymholiad gan gyfaill, ymwelais a safle'r Cynulliad a chael mai 'Trafnidiaeth' yn hytrach na 'Cludiant' a arferir am "Transport", a "Traffig" yn hytrach na "Trafnidiaeth" am "Traffic". A oes 'na rai o gyfieithwyr y Cynulliad a all egluro hyn a rhoi'r termau a dderbynnir ar gyfer "Road Traffic Act" a "Department for Transport"? Diolch, Ann 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK (01248) 371987 [log in to unmask] ________________________________________________________________________ The original of this email has been scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSI) virus scanning service supplied exclusively by Cable & Wireless in partnership with MessageLabs. GSI users - for further details, please contact the GSI Nerve Centre, or browse GNC 003/2002 at http://www.gsi.gov.uk/main/new2002notices.htm In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.