Does dim angen awdurdod o fath yn y byd i fathu berfenw Saesneg. 'Any noun can be verbed,' chwedl yr Americanwr. Yr ystyr yma yw 'cael gafael arnynt' neu 'eu prynu', byddwn i'n tybio. I mi, mae 'cael atynt' yn awgrymu 'which can be reached', ac mae ystyr y Saesneg ychydig yn lletach na hynny.
 
Os ca' i awgrymu ambell welliant i'r cyfieithiad, byddwn i'n ailadrodd 'cynhyrchion' o flaen 'sydd wedi eu gwneud' gan fod dilyn arddodiad a^'r gair 'neu' ac yna gymal perthynol yn swnio'n chwithig. Byddwn i hefyd yn rhoi 'y cwsmer' yn hytrach na 'cwsmer' am fod y Gymraeg yn hoffi bod yn agos atoch ac yn fwy pendant na'r Saesneg.  Ac yn olaf, fyddwn i ddim yn ailadrodd 'sydd' yn y cymal olaf - fe wnaiff 'neu'n rhai' y tro'n iawn yma.
 
Sylwadau adeiladol - a llawn cydymdeimlad - gobeithio!
 
Berwyn
 
 

Mae angen i gynhyrchion untro neu sydd wedi eu gwneud yn unol â dyluniad penodol cwsmer ddefnyddio deunyddiau, offer a chyfarpar sydd ar gael yn ddidrafferth neu sydd yn rhai y gellir cael atynt yn weddol rwydd.

----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">John D Williams
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 21, 2002 12:20 PM
Subject: Resourced

Technoleg Safon Uwch
One-off or custom-made products need to use materials, tools and equipment that are available or that can be resourced fairly easily.

Mae angen i gynhyrchion untro neu sydd wedi eu gwneud yn unol â dyluniad penodol cwsmer ddefnyddio deunyddiau, offer a chyfarpar sydd ar gael yn ddidrafferth neu sydd yn rhai y gellir cael atynt yn weddol rwydd.

Fedra i ddim ffeindio 'resource' fel berf mewn unrhyw eiriadur.  Does gen i ddim problem derbyn y gair hwn fel berf, a dwi'n gobeithio fy mod i'n deall ei ystyr yma.

Pwy sy'n bathu berfenwau Saesneg newydd fel hyn, ac a yw eu hawdurdod i wneud hynny yn cael ei gydnabod?

John.