Print

Print


Diolch Magi
Roeddwn innau yn poeni am y Dwr, ond mae'r aqua-ymarfer yn swnio'n
dderbyniol iawn.

-----Original Message-----
From: teulu lewis [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 23 May 2002 12:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Aqua-natal


Dosbarthiadau ymarfer yn y pwll nofio cyn geni.

mae dwr yn cyfleu rhywbeth arall yng nghyd-destun geni babis - amniotic
fluid - felly ni fyddwn i'n son am ddosbarthiadau dwr! Dysgu nhw beth
i'w wneud pan fydd y dwr wedi torri, efallai...

Gan mai Lladin yw aqua a tydwi'n poeni dim am ddefnyddio geiriau o
unrhyw iaith heblaw'r Saesneg, gallwn fyw'n hapus gyda aqua-ymarfer cyn
geni pe bai raid i mi! Diolch byth na fydd y cwestiwn yn codi eto i mi'n
bersonol ddweda i...
Magi
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 23, 2002 11:26
Subject: Aqua-natal


> Dosbarthiadau yn ystod beichiogrwydd (i ferched wrth gwrs) -
dosbarthiadau
> d^wr cyn geni?  Mae o'n hir a bler ond yn gwneud mwy o synnwyr na'r
> Acwa-dd^wr sydd wedi ei weld yn rhywle.  Byddai unrhyw gynigion o
gymorth.
>
> Diolch
> John Puw