Print

Print


Ar wahan i'r rhai a enwyd eisoes, mae gan Bruce y rhain, ond byddai'n rhaid cael sawl un trwy llrgell/siop ail law.  Y tebygrwydd yw, beth bynnag, fod yr wybodaeth ynddynt eisoes wedi'i chynnwys yng Ngeiriadur yr Academi:
Rhestr o Adar Cymru - P Hope Jones ac E V Breeze-Jones, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1973
Glan y Mor (Geirfa yn y cefn) Gwasg Prifysgol Cymru, 1972
Adar ein Gwlad - John Ashton, W. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin, 1906
Byd y Blodau - J Lloyd Williams, William Lewis Cyf, Caerdydd, 1924
Llyfr Blodau (Yr Ail Lyfr yn unig sydd gan Bruce) - Richard Morgan, Cwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig Cyf, Caernarfon, 1910.
Y Byd Byw, rhannu I a II - Elisabeth Stanley, Gwasg Prifysgol Cymru, 1949 a 1955.
Geirfa Natur - Gwasg Prifysgol Cymru, 1951
Ar y Traeth (Rhif 4 o gyfres 'Sgorio 1,000' - tebyg i'r hen lyfrau 'I-Spy') - Catrin Stevens, Y Lolfa, 1981
 
Ers cyhoeddi Geiriadur yr Academi, mae Bruce wedi gweithio ar nifer o eirfaoedd, gan gynnwys:
Geiriadur Termau Cyngor Cefn Gwlad (dim cymaint a hynny o enwau anifeiliad ac ati, ond llawer o dermau cysylltiedig) - mae'n reit bosibl y cewch gopi gan y Cyngor erbyn hyn, neu ganiatad imi ryddhau copi ichi.
Geirfa Pysgodfeydd - wedi son am hon, ac am bwy i gysylltu ag ef, o'r blaen.
 
Ann