O ran diddordeb, mae CySill yn cynnwys negodi ond nid negydu. Ac os ga'i inna' roi fy mhig i mewn yn y ddadl, fe fyddwn innau'n ffafrio rhywbeth mwy penodol am 'negotiating' yn y cyd-destun yma - mae trafod yn rhy annelwig neu benagored. Fodd bynnag, fyddai gen i ddim gwrthwynebiad i Trafod Telerau (neu negodi wrth gwrs). Meinir John D Williams <[log in to unmask] To: [log in to unmask] AM.SCH.UK> cc: Sent by: Discussion of Welsh Subject: Joint Negotiating Committee language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask] K> 24/04/2002 11:28 Please respond to Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Gwelaf nad yw 'negydu' yn Y Termiadur Ysgol nag yn GYA chwaith. Mae 'negodi' yn y Geiriadur Termau o 1973 - gwaith rhyfeddol nid oes ddwywaith, ac rwy'n siwr fod 'negydu' yn llyfrau termau CBAC Astudiaethau Busnes ac Economeg nad ydynt gennyf erbyn hyn. Teimlas fod Y Termiadur Ysgol a GYA rhyngddynt yn siwr o fod yn llawer gwell. Tebyd o ble daeth. O blaid 'negydu' mae'r ffaith mai un gair ydyw sy'n cyfleu, ys dywedodd Tim, ystyr y Saesneg. Serch hynny dwi'n teimlo fod 'negodi' a 'negydu' fel ei gilydd yn swnio braidd yn artiffisial a bod angen rhywbeth naturiol. Yn y cyd-destun hwn, ydyn ni'n gwybod beth yw gwrthrych y trafodaethau? Bryd hynny o bosibl y gellid creu term i'w gyfleu yn agosach - ar y patrwm trafod telerau etc. John.