Gwen - baswn i'n meddwl bod y geiriau roeddech
chi'n eu defnyddio - 'trin' a 'gofalu' yn reit agos ati. Ydy 'Gofalu am y
tir' yn ddigon penodol? Yn sicr, ôl gofal sydd ar diroedd o'r fath,
ac mae'r gair Cymraeg yn awgrymu mwy o gariad at y tir na'r un Saesneg.
Mae 'na, neu roedd 'na, gynllun 'Tir Gofal' ac efallai y gallai rhywun o'r
gymuned amaethyddol ein goleuo yngly^n â hwnnw.
Glenys
----- Original Message -----
Sent: Sunday, March 17, 2002 3:52
PM
Subject: Manage the land
Mae 'rheoli' yn awgrymu
busnes. Tybed all y rhai sydd o gefndir cefn gwlad neu ffermio ddweud beth
yw'r gair traddodiadol am ofalu am y tir a'i drin yn briodol. (tir
mynydd- pryd i losgi'r grug ac yn y blaen).
Diolch i bawb.