Mae'n well gen i 'trin'  na 'rheoli' yng nghyd-destun tir.  Daeth 'braenaru' i'r meddwl, ond mae'n gysylltiedig â thir coch yn hytrach na thir mynydd. 
 
Cysylltais â'm tad sy'n ei 70au ac yn ffermwr o hyd.  Roedd gen i syniad y bydda fo'n gwybod, ond er ei fod o'n rhyw hanner meddwl bod gair addas i'r pwrpas, yr unig beth oedd yn dod i'w feddwl oedd 'dulliau cadwraethol o drin/reoli tir'.
 
Y person mwyaf gwybodus y gwn i amdano yn y cyswllt hwn ydi Twm Elias yn Nhan y Bwlch, Maentwrog.  Mae ganddo stor dda o lyfrau cyfeirio wrth law os nad yw'r gair ar flaen ei dafod ac mae o wrth ei fodd yn trin geiria, yn enwedig os ydan nhw'n ymwneud â chadwraeth yn ogystal â ffermio.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]>Gwen Evans
To: [log in to unmask]>[log in to unmask]
Sent: Sunday, March 17, 2002 3:52 PM
Subject: Manage the land

Mae 'rheoli' yn awgrymu busnes. Tybed all y rhai sydd o gefndir cefn gwlad neu ffermio ddweud beth yw'r gair traddodiadol am ofalu am y tir a'i drin yn briodol.  (tir mynydd- pryd i losgi'r grug ac yn y blaen).
Diolch i bawb.