----- Original Message -----
Sent: Wednesday, March 13, 2002 1:33
PM
Subject: Re: upset
Dwi'n cyfieithu rhywbeth sy'n sôn am droseddwyr
ifanc a'r dioddefwyr - mae'r frawddeg yn dweud y gallai'r dioddefwr fynd yn
'ypset' yn y cyfarfod. Rhywsut neu'i gilydd, does dim gair Cymraeg
sy'n cyfateb i'r math yna o 'ypsetio' - mae'n debyg nad ydyn ni'n genedl
sy'n gwneud petha felly!!
Catrin
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, March 13, 2002 12:37
PM
Subject: Re: upset
Beth yw'r cyd-destun? Ai ansoddair neu enw yw
'upset? A fyddai 'dig' neu 'crac' yn dderbyniol yn y cyd-destun sy
gen ti?
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, March 13, 2002
11:43 AM
Subject: upset
Oes rhywun yn gallu awgrymu gair sy'n
trosglwyddo ystyr 'upset' yn iawn? Ydy defnyddio 'ypset' yn
dderbyniol dan rai amgylchiadau?
Catrin