Atygweiriadau Ymatebol: rhai sy'n cael eu gwneud, er enghraifft, mewn ty
Cyngor gan weithwyr Cyngor, mewn ymateb i alwad gan y tenant. Y math arall
o atgyweiriadau y bydd y gweithwyr hyn yn eu gwneud yw Atgyweiriadau
Cynlluniedig (Planned Repairs), sy'n cael eu cyflawni yn ôl amserlen sydd wedi
ei llunio gan y Cyngor ymlaen llaw.
----- Original Message -----
Sent: 01 March 2002 13:53
Subject: Re: Non urgent responsive
repairs
fallai mai'r non-urgent oedd yn eich
llorio chi Wil ond mae'n amlwg mai fi ydi'r unig un sydd heb ddeall beth yn
union yw responsive repair. Heb ddim brys amdanynt yn OK ond beth sy'n ymateb
i beth? Byddai'n dda gen i gael gwybod neu ni fyddaf yn gallu cysgu heno yn
meddwl am y peth.
Magi
----- Original Message -----
Sent: Friday, March 01, 2002
11:20
Subject: Non urgent responsive
repairs
Y non ugent sy'n fy llorio. Unrhyw
gynigion?
Wil Roberts