Sister, sisters, sisteraidd, sisterllyd (diolch i Geraint am gynnig y syniad, yn anuniongyrchol!). Pwy sy'n dweud nad yw 'sister' yn gallu bod yn gynhyrchiol? Pa ffurfiau Saesneg y mae'r gair 'sister' wedi esgor(!) arnynt? Berwyn ----- Original Message ----- From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, March 13, 2002 12:17 PM Subject: Re: sister > Wel, dyma finnau'n mentro rhoi fy mhen ar y bloc yn awr. > Nid hollt rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig yw craidd y ddadl rhwng > termau cyfeillgar (Cymraeg Clir ac ati) a thermau technegol (jargon yn > ddigon aml). > Mae yna gyd-destunau technegol manwl (yn y gyfraith, gwyddoniaeth, > meddygaeth ac ati) lle mae termau yn cario ystyr benodol iawn. Dyma beth > mae'r arbenigwyr yn ei alw yn LSP (language for special purposes). Mae'n > ddigon posibl fod y math yma o iaith yn cael ei gorddefnyddio i swnio'n > grand/cuddio ystyr/taflu llwch i lygad y cyhoedd neu jyst am fod y > cyfreithwyr/gwyddonwyr/meddygon wedi anghofio sut i siarad gyda phobl > gyffredin. Er hynny, ceir gyd-destunau lle mae angen y termau technegol > manwl - y gamp yw medru gwahaniaethu a gwybod pryd i ddefnyddio'r cywair > priodol. > Dro'n ôl ym Mangor fe geisiwyd rhoi nodiadau darlithiau bydwreigiaeth drwy > felin Cymraeg Clir mewn ymgais i'w gwneud yn haws i'r myfyrwyr eu deall. > Cafwyd adwaith anffafriol iawn oddi wrth y darlithwyr, am eu bod yn mynnu > bod yn rhaid i'r myfyrwyr ddysgu y termau a'r cywair technegol yn ogystal a > 'iaith y fam'. Yn sgil y drafodaeth hon rydym wedi dechrau cyflwyno termau > "F:" ('familiar terms') ochr yn ochr â'r termau technegol ambell waith yn > ein geiriaduron termau, mewn ymgais i roi arweiniad ar gywair llai ffurfiol. > A dilyn yr egwyddor hon mae'n debyg mai'r cofnod llawn am sister yn y Termau > Nyrsio a Bydwreigiaeth ddylai fod: prif weinyddes nyrsio F: sister. Mae > Glenys yn llygaid ei lle na fyddai neb yn cyfarch sister fel 'prif weinyddes > nyrsio'. Ar y llaw arall, wrth drafod swyddogaeth a gwaith sister yn y > darlithiau, teimlwyd ei bod yn briodol arddel y teitl swydd mwy ffurfiol. > Mae problem arall gyda'r term sister yn Gymraeg am nad yw'n ffurf > gynhyrchiol h.y. nid oes modd creu ffurfiau eraill ohono, yn wahanol i > 'nyrs' sy'n rhoi'r lluosog 'nyrsys' a'r ferf 'nyrsio' (ac am wn i does neb > yn cynnig 'gweinyddes' yn lle 'nyrs'). > Efallai bod angen dweud hefyd bod y wyddor o safoni termau yn perthyn i LSP > yn unig. Dyma lle mae cyd-destun technegol manwl yn gofyn am gysondeb ac > ymlyniad wrth safonau penodol. Pan fydd ymgais i orfodi'r termau hyn ar yr > iaith bob dydd rydyn ni'n troi yn blismyn iaith - a'n gwaredo. > > Delyth > > ----- Original Message ----- > From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, March 13, 2002 10:34 AM > Subject: Re: sister > > > > Ydw i am roi fy mhen ar y bloc yn y drafodaeth yma .?... mmm ... > > Beth fyddai barn pobl Cymraeg Clir am y term 'Prif Weinyddes Nyrsio', ac o > > ran hynny am 'Gweinyddes'? Onid ydy'r termau 'Nyrs' a 'Sister' wedi bod > yn > > rhan o Gymraeg llafar (graenus) ers digon o amser i gael eu derbyn i'r > iaith > > ysgrifenedig bellach? Amau rydw i bod y termau 'Gweinyddes' a 'Phrif > > Weinyddes' yn gwneud i'r Gymraeg swnio'n ddieithr neu'n orfawreddog i'r > rhan > > fwyaf o Gymry Cymraeg yn y proffesiwn ... > > > > Annwyl Brif Weinyddes Nyrsio, > > Ydych chi'n gwybod pwy ydych chi?! > > > > Mae'n rhaid i dermau fod o leiaf yn dderbyniol ar lafar cyn bod gobaith > > iddynt ennill eu plwyf. Mae arna i ofn bod y frwydr wedi ei cholli efo'r > > ddau derm hyn. > > > > DOCTOR: Brif Weinyddes Nyrsio, sut mae Mr Jones y bore 'ma? > > > > Go brin. > > > > Gyda llaw - rydw i'n gwybod mai ailagor hen drafodaeth fydd hyn i Delyth > a'i > > thîm ym Mangor ac y bydd yr ystyriaethau hyn wedi eu trafod eisoes â > > chynrychiolwyr byd nyrsio etc., ynghyd â phroblem FAWR beth i'w wneud pan > > fo'r Sister yn ddyn. Ond peth byw yw iaith, ac mae'n dal i newid, felly > > daliwn i drafod ...! > > > > Glenys > > > > ON Mi fydda i'n gorfod cyfieithu'r termau hyn mewn hysbysebion swyddi > > weithiau ac rwy'n defnyddio 'Nyrs' a 'Sister' (a 'Prif Nyrs' am 'Charge > > Nurse'). > > > > > > ----- Original Message ----- > > From: Gwen Rice <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Wednesday, March 13, 2002 8:54 AM > > Subject: Re: sister > > > > > > > Diolch i bawb sydd wedi ymateb. Efallai na wnes i egluro'n iawn, ond y > > > cyd-destun yw 'Sister ... (+ enw)' ar amlen a 'Dear Sister ... (+ enw)' > ar > > > lythyr. > > > Gwen > > > > > > -----Original Message----- > > > From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]] > > > Sent: 12 March 2002 20:30 > > > To: [log in to unmask] > > > Subject: Re: sister > > > > > > > > > Yn Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Delyth yn rhoi 'prif weinyddes > > > nyrsio'. > > > > > > Berwyn > > > > > > ----- Original Message ----- > > > From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]> > > > To: <[log in to unmask]> > > > Sent: Tuesday, March 12, 2002 5:05 PM > > > Subject: sister > > > > > > > > > > Mewn ysbyty. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig prif nyrs, nyrs hyn, > ac > > > (ar > > > > lafar) sister. Fel teitl, ai 'Prif Nyrs (Jones, neu beth bynnag)' a > > > > ddefnyddir wrth gyfeirio at y person. (Ac oes enw arall (yn y Saesneg) > > am > > > > ddyn sy'n gwneud y fath waith? Mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn ddiogel yn > > hyn > > > o > > > > beth os anghofiwn ni am 'sister'.) > > > > Diolch > > > > Gwen > > > > > > >