Print

Print


Wel, dyma finnau'n mentro rhoi fy mhen ar y bloc yn awr.
Nid hollt rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig yw craidd y ddadl rhwng
termau cyfeillgar (Cymraeg Clir ac ati) a thermau technegol (jargon yn
ddigon aml).
Mae yna gyd-destunau technegol manwl (yn y gyfraith, gwyddoniaeth,
meddygaeth ac ati) lle mae termau yn cario ystyr benodol iawn. Dyma beth
mae'r arbenigwyr yn ei alw yn LSP (language for special purposes). Mae'n
ddigon posibl fod y math yma o iaith yn cael ei gorddefnyddio i swnio'n
grand/cuddio ystyr/taflu llwch i lygad y cyhoedd neu jyst am fod y
cyfreithwyr/gwyddonwyr/meddygon wedi anghofio sut i siarad gyda phobl
gyffredin. Er hynny, ceir gyd-destunau lle mae angen y termau technegol
manwl - y gamp yw medru gwahaniaethu a gwybod pryd i ddefnyddio'r cywair
priodol.
Dro'n ôl ym Mangor fe geisiwyd rhoi nodiadau darlithiau bydwreigiaeth drwy
felin Cymraeg Clir mewn ymgais i'w gwneud yn haws i'r myfyrwyr eu deall.
Cafwyd adwaith anffafriol iawn oddi wrth y darlithwyr, am eu bod yn mynnu
bod yn rhaid i'r myfyrwyr ddysgu y termau a'r cywair technegol yn ogystal a
'iaith y fam'. Yn sgil y drafodaeth hon rydym wedi dechrau cyflwyno termau
"F:" ('familiar terms') ochr yn ochr â'r termau technegol ambell waith yn
ein geiriaduron termau, mewn ymgais i roi arweiniad ar gywair llai ffurfiol.
A dilyn yr egwyddor hon mae'n debyg mai'r cofnod llawn am sister yn y Termau
Nyrsio a Bydwreigiaeth ddylai fod: prif weinyddes nyrsio F: sister. Mae
Glenys yn llygaid ei lle na fyddai neb yn cyfarch sister fel 'prif weinyddes
nyrsio'. Ar y llaw arall, wrth drafod swyddogaeth a gwaith sister yn y
darlithiau, teimlwyd ei bod yn briodol arddel y teitl swydd mwy ffurfiol.
Mae problem arall gyda'r term sister yn Gymraeg am nad yw'n ffurf
gynhyrchiol h.y. nid oes modd creu ffurfiau eraill ohono, yn wahanol i
'nyrs' sy'n rhoi'r lluosog 'nyrsys' a'r ferf 'nyrsio' (ac am wn i does neb
yn cynnig 'gweinyddes' yn lle 'nyrs').
Efallai bod angen dweud hefyd bod y wyddor o safoni termau yn perthyn i LSP
yn unig. Dyma lle mae cyd-destun technegol manwl yn gofyn am gysondeb ac
ymlyniad wrth safonau penodol. Pan fydd ymgais i orfodi'r termau hyn ar yr
iaith bob dydd rydyn ni'n troi yn blismyn iaith - a'n gwaredo.

Delyth

----- Original Message -----
From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 10:34 AM
Subject: Re: sister


> Ydw i am roi fy mhen ar y bloc yn y drafodaeth yma .?... mmm ...
> Beth fyddai barn pobl Cymraeg Clir am y term 'Prif Weinyddes Nyrsio', ac o
> ran hynny am 'Gweinyddes'?  Onid ydy'r termau 'Nyrs' a 'Sister' wedi bod
yn
> rhan o Gymraeg llafar (graenus) ers digon o amser i gael eu derbyn i'r
iaith
> ysgrifenedig bellach?  Amau rydw i bod y termau 'Gweinyddes' a 'Phrif
> Weinyddes' yn gwneud i'r Gymraeg swnio'n ddieithr neu'n orfawreddog i'r
rhan
> fwyaf o Gymry Cymraeg yn y proffesiwn ...
>
> Annwyl Brif Weinyddes Nyrsio,
> Ydych chi'n gwybod pwy ydych chi?!
>
> Mae'n rhaid i dermau fod o leiaf yn dderbyniol ar lafar cyn bod gobaith
> iddynt ennill eu plwyf.  Mae arna i ofn bod y frwydr wedi ei cholli efo'r
> ddau derm hyn.
>
> DOCTOR: Brif Weinyddes Nyrsio, sut mae Mr Jones y bore 'ma?
>
> Go brin.
>
> Gyda llaw - rydw i'n gwybod mai ailagor hen drafodaeth fydd hyn i Delyth
a'i
> thîm ym Mangor ac y bydd yr ystyriaethau hyn wedi eu trafod eisoes â
> chynrychiolwyr byd nyrsio etc., ynghyd â phroblem FAWR beth i'w wneud pan
> fo'r Sister yn ddyn.  Ond peth byw yw iaith, ac mae'n dal i newid, felly
> daliwn i drafod ...!
>
> Glenys
>
> ON Mi fydda i'n gorfod cyfieithu'r termau hyn mewn hysbysebion swyddi
> weithiau ac rwy'n defnyddio 'Nyrs' a 'Sister' (a 'Prif Nyrs' am 'Charge
> Nurse').
>
>
> ----- Original Message -----
> From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, March 13, 2002 8:54 AM
> Subject: Re: sister
>
>
> > Diolch i bawb sydd wedi ymateb. Efallai na wnes i egluro'n iawn, ond y
> > cyd-destun yw 'Sister ... (+ enw)' ar amlen a 'Dear Sister ... (+ enw)'
ar
> > lythyr.
> > Gwen
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 12 March 2002 20:30
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: sister
> >
> >
> > Yn Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Delyth yn rhoi 'prif weinyddes
> > nyrsio'.
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, March 12, 2002 5:05 PM
> > Subject: sister
> >
> >
> > > Mewn ysbyty. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig prif nyrs, nyrs hyn,
ac
> > (ar
> > > lafar) sister. Fel teitl, ai 'Prif Nyrs (Jones, neu beth bynnag)' a
> > > ddefnyddir wrth gyfeirio at y person. (Ac oes enw arall (yn y Saesneg)
> am
> > > ddyn sy'n gwneud y fath waith? Mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn ddiogel yn
> hyn
> > o
> > > beth os anghofiwn ni am 'sister'.)
> > > Diolch
> > > Gwen
> > >
>