Rwy wedi bod yn edrych yn y gronfa ddata sydd tu cefn i'r rhestr Termau Addysg i weld a oes nodyn ychwanegol yna, neu ddiffiniad cyfreithiol, a doedd dim goleuni pellach i'w gael yno. Dydw i ddim yn cofio unrhyw drafodaeth ychwaith, ond y dyddiau hyn mae'r gronfa ddata yn fwy dibynadwy na'r cof. Mae 'transition' yn derm anodd i'w gyfieithu i'r Gymraeg am fod iddo gymaint o wahanol ystyron (gw. y Termiadur Ysgol/Geiriadur yr Academi). Mae 'trawsnewid' yn y Gymraeg yn golygu newid go fawr. I fynd nôl at ddiffiniad gwreiddiol Eirlys o'r term yn ei chyd-destun hi fel "rhyw fath o broses ar gyfer disgyblion (anghenion arbennig o bosibl?) wrth iddyn nhw adael yr ysgol i fynd i'r coleg neu i weithio" mae trawsnewid yn swnio braidd yn eithafol, ac efallai yn anghywir o ran ystyr yma. Byddwn i'n meddwl fod 'pontio' hefyd yn garedicach term rhag peri dychryn i fyfyrwyr sydd efallai'n bryderus am newid byd (y project Termau Anabledd sydd wedi fy ngwneud i'n sensitif i oblygiadau o'r fath!). Fodd bynnag, dydw i ychwaith ddim yn gwybod yn union beth yw cyd-destun y term yn yr adroddiad hwn, ac os yw'n fater o newid sylweddol, efallai bod rheswm da dros fod wedi dewis y term 'trawsnewid' - os felly efallai y gall cyfieithwyr y Cynulliad ein goleuo ar hyn. Mae'n fwy tebygol fod hwn yn gyfieithiad ddewiswyd wrth weithio ar frys ac o dan bwysau - problem sy'n gyfarwydd i ni i gyd. Y cwestiwn wedyn, ac rydym i gyd wedi gorfod wynebu hyn hefyd, yw beth sy'n digwydd pan fydd yn rhaid i ni ddyfynnu neu ddilyn dogfen arall lle nad ydym yn hapus gyda'r cyfieithiad gwreiddiol. Mae cywirdeb cysyniadol ein cyfieithiadau yn bwysig (llawer pwysicach na chysondeb termau) a cheir rhai sefyllfaoedd lle mae'n rhaid tynnu sylw'r sawl gomisiynodd y cyfieithiad gwreiddiol at wallau pwysig. Yn yr achos hwn byddwn yn awgrymu: 1. bod y cyfieithydd ddaeth ar draws y broblem yn awr yn gofyn am ddiffiniad manylach o'r broses dan sylw er mwyn deall yr ystyr yn well 2. os yw'n canfod mai 'cynllun pontio' fyddai'r cyfieithiad cywiraf yma ei bod hi'n defnyddio'r term hwnnw gan ychwanegu rhwng cromfachau ar ei ôl "(sydd hefyd wedi cael ei alw yn 'gynllun trawsnewid')" y tro cyntaf mae'n digwydd yn ei chyfieithiad er mwyn i ddarllenwyr gysylltu'r term gyda'r term arall yn y ddogfen flaenorol 3. bod y cylch trafod yn cael gwybod beth oedd y penderfyniad fel bod cofnod ohono yn yr archif ar gyfer y dyfodol Mae pwynt 2 uchod yn ddyfais y mae modd ei defnyddio mewn sefyllfaoedd eraill lle nad yw rhywun yn hapus i gadw at derm sydd wedi'i ddefnyddio'n flaenorol. Byddai'n dda clywed os yw aelodau eraill y cylch wedi canfod ffyrdd eraill o ddelio gyda'r broblem hon. Delyth Prys