Fe wnes i gyfieithu dogfen am Anghenion Addysgol Arbennig yn ddiweddar. Roeddwn i, fel Glenys, wedi gweld "cyfnod pontio" am "transition period" ond roedd dogfen flaenorol ar y pwnc yn defnyddio "cynllun trawsnewid" am "transition plan". Fe wnes i holi'r Cynulliad ac fe ddywedon nhw mai "cynllun trawsnewid" oedd eu term nhw. (Mae'n well gen i "cynllun pontio" yn bersonol ond dyna fe!) Cofion Sian ----- Original Message ----- From: "Eirlys Williams" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, March 06, 2002 5:10 PM Subject: transitional plan Rhyw fath o broses ar gyfer disgyblion (anghenion arbennig o bosibl?) wrth iddyn nhw adael yr ysgol i fynd i'r coleg neu i weithio. Oes yna derm cydnabyddedig, tybed? Eirlys W