Holais yr Ysgol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Iechyd yn y brifysgol ym Mangor ynghylch eu hargymhelliad hwy ar gyfer y term. Maent wedi bod yn arloesi dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes bydwreigiaeth ac yn awyddus i'r termau cywir gael eu defnyddio. Dyma oedd yr ateb a dderbyniais: "'Myfyriwr Nyrsio' (nursing student) a 'Myfyriwr Bydwreigiaeth' (midwifery student) sy'n cael eu defnyddio yn yr Ysgol. Rydym wedi ceisio gollwng y term 'hyfforddiant' ers tro gan ddefnyddio 'addysg' . Mae'n adlewyrchu'r newid o'r dull traddodiadol o hyfforddi dan adain y meddyg i weithio fel aelodau proffesiynol ar ein liwt ein hunain." Delyth Prys ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 04, 2002 12:19 PM Subject: Re: student midwife ... neu ddarpar-fydwraig. Bruce