Mi ges i afael ar fap neithiwr (mamylach na'r un sy yn yr Atlas Cymraeg) a gweld bod y 'Burry Inlet' yn cyfeirio fel roedd Bruce yn awgrymu at ddarn llawer mwy o fôr na'r darn sy'n union o gwmpas Porth Tywyn!  Felly mae 'aber Llwchwr' yn awgrym da baswn i'n meddwl.  Tybed fasai tad Lisa yn cytuno?
Mae gen i gwestiwn arall hefyd .. ond gwell imi ufuddhau i'r rheolau ac anfon neges ar wahân!

Glenys
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]>Ann Corkett
To: [log in to unmask]>[log in to unmask]
Sent: Monday, February 11, 2002 4:42 PM
Subject: Re: Burry

>Ydy hi'n wir nad oes enw Cymraeg ar afon 'Burry'?
Nac yw, meddai Bruce - Afon Byri.
Mae o'n methu dod o hyd i unrhyw beth ar gyfer Burry Inlet, ond o edrych ar y map mae o'n awgrymu Aber Llwchwr, neu o bosibl Aber Byri.
Ann