Bu llawer o drafod ar y term 'acute' yng nghyd-destun
afiechydon yng nghyfarfodydd Pwyllgor Termau Awdurdod Iechyd Gogledd
Cymru.
Nid ydym wedi gallu cael hyd i well term na 'llym' - bydd
acute illness = afiechyd llym ac acute psychosis = seicosis llym yn ymddangos yn
ein Termau Iechyd Plant a gyhoeddir yn fuan.
'llym' a ddefnyddir hefyd yn y cyd-destun afiechyd gan
gyfieithwyr yr awdurdod a'r ymddiriedolaethau iechyd ar draws gogledd Cymru. Yr
ydym yn ymwybodol fodd bynnag fod 'aciwt' wedi'i ddefnyddio yn ardal Caerfyrddin
e.e. ward aciwt.
Y diffiniad yn yr Oxford English Dictionary yw
2. Of diseases: Coming sharply to a point or crisis of
severity; opposed to chronic. Also fig. Severe; crucial.
b. Of a ward, bed, etc.: designated or
reserved for patients with an acute disease.
Mae afiechyd 'acute' yn medru bod yn ddifrifol, a gall 'tymor
byr' roi camargraff fod yr afiechyd yn un ysgafn.
Efallai mai rhan o'r draffertch gydag 'acute care' ac 'acute
hospital' yw nad disgrifio'r gofal na'r ysbyty y mae'r 'acute', ond yr
afiechyd.
Byddai 'gofal afiechydon llym' ac 'ysbyty afiechydon llym'
felly yn gywirach, ond yn fwy hirwyntog efallai.
Delyth Prys
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, February 06, 2002 8:59
AM
Subject: Acute
Dyma hen gameleon o air. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig 'salwch â
chwrs penodol' ar gyfer 'acute illness', a Termau Gwaith a Gofal
Cymdeithasol yn ffafrio 'afiechyd llym'. Yn wir, 'llym/llem' a
ddefnyddir yn TGGC i gyfleu 'acute unit' ac 'acute ward'.
Mae yna restr eiriau yng nghefn y ddogfen
rwy'n ei chyfieithu ar hyn o bryd sy'n dweud hyn am 'acute':
(1) acute = short term (as opposed to
chronic = long term).
(2) 'acute care' refers to medical and
surgical treatment involving doctors and other medical staff in a hospital
setting.
(3) 'acute hospital' - a hospital that
provides surgery, investigations, operations, serious and other treatments,
usually in a hospital setting.
Tybed felly a ddylid mabwysiadu 'cyfnod byr' i
gyfleu 'acute' (1) uchod; 'gofal mewn ysbyty' ar gyfer (2) a rhywbeth gwahanol
eto ar gyfer (3)?