Bu llawer o drafod ar y term 'acute' yng nghyd-destun afiechydon yng nghyfarfodydd Pwyllgor Termau Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru. Nid ydym wedi gallu cael hyd i well term na 'llym' - bydd acute illness = afiechyd llym ac acute psychosis = seicosis llym yn ymddangos yn ein Termau Iechyd Plant a gyhoeddir yn fuan. 'llym' a ddefnyddir hefyd yn y cyd-destun afiechyd gan gyfieithwyr yr awdurdod a'r ymddiriedolaethau iechyd ar draws gogledd Cymru. Yr ydym yn ymwybodol fodd bynnag fod 'aciwt' wedi'i ddefnyddio yn ardal Caerfyrddin e.e. ward aciwt. Y diffiniad yn yr Oxford English Dictionary yw 2. Of diseases: Coming sharply to a point or crisis of severity; opposed to chronic. Also fig. Severe; crucial. b. Of a ward, bed, etc.: designated or reserved for patients with an acute disease. Mae afiechyd 'acute' yn medru bod yn ddifrifol, a gall 'tymor byr' roi camargraff fod yr afiechyd yn un ysgafn. Efallai mai rhan o'r draffertch gydag 'acute care' ac 'acute hospital' yw nad disgrifio'r gofal na'r ysbyty y mae'r 'acute', ond yr afiechyd. Byddai 'gofal afiechydon llym' ac 'ysbyty afiechydon llym' felly yn gywirach, ond yn fwy hirwyntog efallai. Delyth Prys ----- Original Message ----- From: Kenneth Owen To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, February 06, 2002 8:59 AM Subject: Acute Dyma hen gameleon o air. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig 'salwch â chwrs penodol' ar gyfer 'acute illness', a Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol yn ffafrio 'afiechyd llym'. Yn wir, 'llym/llem' a ddefnyddir yn TGGC i gyfleu 'acute unit' ac 'acute ward'. Mae yna restr eiriau yng nghefn y ddogfen rwy'n ei chyfieithu ar hyn o bryd sy'n dweud hyn am 'acute': (1) acute = short term (as opposed to chronic = long term). (2) 'acute care' refers to medical and surgical treatment involving doctors and other medical staff in a hospital setting. (3) 'acute hospital' - a hospital that provides surgery, investigations, operations, serious and other treatments, usually in a hospital setting. Tybed felly a ddylid mabwysiadu 'cyfnod byr' i gyfleu 'acute' (1) uchod; 'gofal mewn ysbyty' ar gyfer (2) a rhywbeth gwahanol eto ar gyfer (3)?