Print

Print


Asiantaeth Datblygu Dysg a Sgiliau  =  Agency for the Development of
Learning and Skills

Asiantaeth Ddatblygu Dysg a Sgiliau  =  Development-Agency for Learning and
Skills

Weithiau bydd y treiglad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i berthynas y
gwahanol gysyniadau yn yr ymadrodd;  ond yn yr achos hwn, dydw i ddim yn
siwr fod yna wahaniaeth ymarferol o gwbl rhwng ystyron y ddau.

(Fodd bynnag, dw i'n dal i ffafrio 'medrau' dros 'sgiliau' !!)

Wyn


----- Original Message -----
From: "Mandi Morse" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 27 February 2002 14:54
Subject: Asiantaeth (D)datblygu Dysg a Sgiliau


Gall rhywun ddweud wrtha i pa un sy'n gywir?
Dwi'n gwybod bod 'asiantaeth' yn air benywaidd, ond fe allech ddadansoddi'r
uchod fel:
Agency of Learning and Skills Development.
 Yna wrth gwrs buaswn yn dweud 'Asiantaeth Datblygu'.
Yn yr un modd, buaswn yn dweud 'Y Flwyddyn Darllen' - 'Year of Reading'
Mae'r peth yn troi yn fy mhen!
Diolch am unrhyw gymorth.
Mandi

Mae'r e-bost hwn yn gyfrinachol a'i unig bwrpas yw darparu gwybodaeth.  Ni
ddylid datgelu'r cynnwys i unrhyw berson anawdurdodedig.  Ni ddylid ystyried
fod yr Awdurdod yn hyrwyddo unrhyw farnau, casgliadau nac unrhyw wybodaeth
arall sydd yn y neges nad ydynt yn berthnasol i fusnes swyddogol ACCAC, neu
sy'n bersonol i'r un sy'n anfon y neges, ac nid yw'r Awdurdod yn derbyn
unrhyw gyfrifoldeb trostynt.  Os y derbyniasoch yr e-bost hwn trwy
gamgymeriad, byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask], gan
ddileu'r neges e-bost hwn o'ch systemau, ac unrhyw systemau storio eraill,
heb oedi.

This email is confidential and is provided for information only.
The contents may not be disclosed to any unauthorised person. Opinions,
conclusions and other information contained in this message that do not
relate to the official business of ACCAC, or are personal to the individual
sender, shall not be understood as endorsed by the Authority and no
liability will be accepted.
If you have received this email in error please reply to
[log in to unmask] and delete the email immediately from your systems
and other storage devices.
___________________________________________________________________
This message has been checked for all known viruses by the
MessageLabs Virus Scanning Service. For further information visit
http://www.messagelabs.com/stats.asp