Diolch i bawb am eu hawgrymiadau. Beth am ail-bennu rhywedd? Mae gen i frith go' i un ohonoch son am wefan rai wythnosau'n ol sy'n rhestru deddfau/rheoliadau/offerynnau statudol ayb yn Gymraeg, ond er i mi chwilio'r safle, alla'i ddim cael hyd i neges sy'n cynnwys cyfeiriad - ydw i wedi breuddwydio hyn? Meinir Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent by: Discussion of cc: Welsh language technical Subject: Re: Gender Reassignment terminology and vocabulary including <WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK> 05/02/2002 16:22 Please respond to Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary including Er defnyddir 'newid rhyw' ar lafar, nid yw Gender Reassignment yr un peth â newid rhyw. Yn gyfreithiol nid yw person sydd wedi cael y llawdriniaeth dan sylw yn newid rhyw (bu achos llys am hyn yn ddiweddar) - nid assignment yw'r broblem ond y cyfieithiad o Gender. Mae gwahaniaeth glir rhwng Gender a Sex yn Saesneg. Buaswn innau'n awgrymu defnyddio Rhywedd a'i gyfiethu fel Newid Rhywedd. Gweler Geiriadur Prifysgol Cymru Rhywedd Y Cyflwr o fod yn wryw neu fenyw o safbwynt gwahaniaethau cymdeithasol, diwylliannol &c.: gender ... ----- Original Message ----- From: "Meinir Huws" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, February 05, 2002 3:43 PM Subject: Gender Reassignment > > Oes gan unrhyw un syniad am hwn? Yn benodol, mewn perthynas a'r Sex > Discrimination (Gender Reassignment) Regulations 1999. Os deallaf yn iawn, > cyfeirio at beidio gwahaniaethu yn erbyn unigolion sydd wedi (neu'n > bwriadu) newid rhyw mae'r rheoliadau, ond mae 'reassignment' i'w weld yn > air chwithig i'w ddefnyddio (- ailgyfeiriad neu adleoliad sydd yng > Ngeiriadur yr Academi). Fyddech chi'n cytuno efo 'newid rhyw', neu oes > term mwy 'derbyniol'?? > > Diolch > Meinir > > ---------------------------------------------------------------------------- ---- > Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a enwir > yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os ydych > wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred yn > seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar unwaith os > gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn derbyn unrhyw > atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw feirws > meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y bo'r angen > cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon. > > This electronic mail transmission is intended for the named recipients only. > It may contain private and confidential information. If this has come to you > in error you must take no action based upon it, nor must you copy it or show > it to anyone; please telephone us immediately and return the original to > us. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a > result of software viruses. It is your responsibility to carry out such virus > checking as is necessary before opening any attachment which may be > included with this message. >