Byddwn i'n meddwl bod 'amrywiaeth' yn gyfieithiad posibl os nad yw'r ystyr yn rhy dechnegol gul. Dywedodd rhywun wrthyf rywdro y dylwn gadw 'amrediad' ar gyfer cyd-destunau mathemategol. Gan nad yw 'ystod' yn un o'm hoff eiriau, all rhywun ddweud wrthyf pwy ddechreuodd ei ddefnyddio i olygu 'range' - a pham? Berwyn ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, February 06, 2002 11:52 AM Subject: range > A oes rhywun arall o'r farn bod y gair "ystod" yn cael ei > orddefnyddio/gamddefnyddio am "range" ? e.e. "Mae yna ystod o bethau y > gallwch eu gwneud yno" pan fyddai "llawer", "nifer", "amryw" yn gwneud y > tro yn iawn. > Sian >