----- Original Message -----
Sent: Thursday, January 31, 2002 8:47
AM
Subject: Re: pool car
Dyw 'cronfa' ddim o reidrwydd yn awgrymu elfen
ariannol. Meddylier am 'cronfa ddw^r'. Wrth fathu ymadroddion mae'n bwysig
ystyried y cyd-destun ehangach. O gael 'pool car', gallai dyn ddisgwyl gweld
ymadrodd fel 'please return the car to the pool'. Bryd hynny, byddai
'cronfa' yn ddewis mwy addas (efallai) nag ymadrodd fel 'car rhannu' neu
'car cydrannu' - er fy mod i, rhaid cyfaddef, yn hoffi'r cyfieithiadau
hynny.
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, January 30, 2002 7:42
PM
Subject: Re: pool car
Diolch Berwyn, ond dwi ddim yn siwr - ydy
cronfa yn awgrymu elfen ariannol tybed? 'Car rhannu' dwi wedi ei roi i
mewn ar hyn o bryd, ond dydwi ddim yn hollol hapus efo hwnnw.
Catrin
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, January 30, 2002
9:02 AM
Subject: Re: pool car
car cronfa?
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, January 29, 2002
9:17 PM
Subject: pool car
Mewn disgrifiad swydd:
'access to a pool car will be
available'
Dwi ddim yn credu mai car sy'n gallu gyrru
ar hyd afonydd yw hwn! Dwi ddim yn siwr chwaith faint o elfen o
rannu sydd ymhlyg yn y disgrifiad.
Hoffwn gael eich cymorth plīs!
Catrin