Print

Print


Diolch Berwyn - dwi'n dilyn y rhesymeg ac yn derbyn y term!!  Sori - roedd hi'n hwyr iawn neithiwr, a minnau wedi blino'n llwyr.

Ar nodyn personol, mae Sion yn ysbyty'r Waun (ward C5 rhag ofn bod rhywyn awydd galw i'w weld!) wedi cael llawdriniaeth ar ei ysgyfaint, felly mae fy ymennydd wedi drysu'n llwyr ar y funud!

Catrin
  ----- Original Message ----- 
  From: Berwyn Jones 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, January 31, 2002 8:47 AM
  Subject: Re: pool car


  Dyw 'cronfa' ddim o reidrwydd yn awgrymu elfen ariannol. Meddylier am 'cronfa ddw^r'. Wrth fathu ymadroddion mae'n bwysig ystyried y cyd-destun ehangach. O gael 'pool car', gallai dyn ddisgwyl gweld ymadrodd fel 'please return the car to the pool'. Bryd hynny, byddai 'cronfa' yn ddewis mwy addas (efallai) nag ymadrodd fel 'car rhannu' neu 'car cydrannu' - er fy mod i, rhaid cyfaddef, yn hoffi'r cyfieithiadau hynny.
    ----- Original Message ----- 
    From: catrin alun 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Wednesday, January 30, 2002 7:42 PM
    Subject: Re: pool car


    Diolch Berwyn, ond dwi ddim yn siwr - ydy cronfa yn awgrymu elfen ariannol tybed?  'Car rhannu' dwi wedi ei roi i mewn ar hyn o bryd, ond dydwi ddim yn hollol hapus efo hwnnw.

    Catrin
      ----- Original Message ----- 
      From: Berwyn Jones 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Wednesday, January 30, 2002 9:02 AM
      Subject: Re: pool car


      car cronfa?

      Berwyn
        ----- Original Message ----- 
        From: catrin alun 
        To: [log in to unmask] 
        Sent: Tuesday, January 29, 2002 9:17 PM
        Subject: pool car


        Mewn disgrifiad swydd:
        'access to a pool car will be available'

        Dwi ddim yn credu mai car sy'n gallu gyrru ar hyd afonydd yw hwn!  Dwi ddim yn siwr chwaith faint o elfen o rannu sydd ymhlyg yn y disgrifiad.

        Hoffwn gael eich cymorth plīs!

        Catrin