Newydd sylweddoli na chyrhaeddodd neges oedd gen i
yr wythnos dwetha y fforwm o gwbl, felly dyma gynnig arall arni.
Rhaid i chi faddau i fi am fod mor araf yn ymateb!
----- Original Message -----
To: [log in to unmask]>Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary including
Sent: Tuesday, January 15, 2002 10:05 AM
Subject: Re: FW: Cyfieithu 'Scrutiny' ac 'Audit'
Mae gan unrhyw dermau sydd wedi eu defnyddio gan y
Cynulliad yn ei is-ddeddfwriaeth arwyddocâd penodol, sydd ddim wedi bod ar gael
i eiriau Cymraeg o'r blaen. Yr arwyddocâd sydd iddyn nhw yw y byddai
barnwr mewn llys yn eu defnyddio nhw mewn unrhyw achos cyfreithiol i geisio
datrys y gynnen. Hynny yw, mae gan dermau sydd wedi eu pasio gan y
Cynulliad rym y gyfraith y tu ôl iddyn nhw.
Ta beth yw barn unigolion am sefyllfa wleidyddol
fel hyn, efallai ei bod yn ddoeth i weision cyhoeddus ddilyn y drefn yn eu
gwaith beunyddiol, a chadw at eirfa'r Cynulliad.
Mae is-ddeddfwriaeth y Cynulliad yn cael ei
chyhoeddi, gyda llaw, gan HMSO ar y wefan yma:
Os edrychwch chi, fe welwch fod pob offeryn
bron yn dechrau drwy roi diffinaid o'r termau pwysig sy'n codi ynddo, i geisio
osgoi amheuon. Mae hon yn gallu bod yn ffynhonnell dda ar gyfer geirfa byd
llywodraeth felly... dim ond i chi gofio mai aelodau'r Cynulliad sy'n gyfrifol
am y cynnwys, ac nid neb ag unrhyw arbenigedd mewn iaith!
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, January 15, 2002 9:12
AM
Subject: FW: Cyfieithu 'Scrutiny' ac
'Audit'
Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin defnyddiwn pwyllgor
archwilio am scrutiny
committee ac archwilio hefyd am audit. O dan y
drefn newydd bydd gennym
scrutiny committe ac audit committee. Yn ôl un
o'n cynghorwyr mae'r Cynulliad yn defnyddio pwyllgor craffu am scrutiny committee
ac mae ef yn awyddus ein bod ni'n gwneud yr un fath er mwyn
cysondeb. Tybed beth mae pawb arall yn ei ddefnyddio am scrutiny
committee a beth yw eich barn am ddefnyddio craffu am scrutiny a chadw
archwilio am audit?