Print

Print


FW: Cyfieithu 'Scrutiny' ac 'Audit'Newydd sylweddoli na chyrhaeddodd neges oedd gen i yr wythnos dwetha y fforwm o gwbl, felly dyma gynnig arall arni.  Rhaid i chi faddau i fi am fod mor araf yn ymateb!
----- Original Message ----- 
From: davidbullock 
To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary including 
Sent: Tuesday, January 15, 2002 10:05 AM
Subject: Re: FW: Cyfieithu 'Scrutiny' ac 'Audit'


Mae gan unrhyw dermau sydd wedi eu defnyddio gan y Cynulliad yn ei is-ddeddfwriaeth arwyddocâd penodol, sydd ddim wedi bod ar gael i eiriau Cymraeg o'r blaen.  Yr arwyddocâd sydd iddyn nhw yw y byddai barnwr mewn llys yn eu defnyddio nhw mewn unrhyw achos cyfreithiol i geisio datrys y gynnen.  Hynny yw, mae gan dermau sydd wedi eu pasio gan y Cynulliad rym y gyfraith y tu ôl iddyn nhw.

Ta beth yw barn unigolion am sefyllfa wleidyddol fel hyn, efallai ei bod yn ddoeth i weision cyhoeddus ddilyn y drefn yn eu gwaith beunyddiol, a chadw at eirfa'r Cynulliad.

Mae is-ddeddfwriaeth y Cynulliad yn cael ei chyhoeddi, gyda llaw, gan HMSO ar y wefan yma:
http://www.wales-legislation.hmso.gov.uk/

Os edrychwch chi, fe welwch fod pob offeryn bron yn dechrau drwy roi diffinaid o'r termau pwysig sy'n codi ynddo, i geisio osgoi amheuon.  Mae hon yn gallu bod yn ffynhonnell dda ar gyfer geirfa byd llywodraeth felly... dim ond i chi gofio mai aelodau'r Cynulliad sy'n gyfrifol am y cynnwys, ac nid neb ag unrhyw arbenigedd mewn iaith!
  ----- Original Message ----- 
  From: Translation Unit 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, January 15, 2002 9:12 AM
  Subject: FW: Cyfieithu 'Scrutiny' ac 'Audit'


  Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin defnyddiwn pwyllgor archwilio am scrutiny committee ac archwilio hefyd am audit.  O dan y drefn newydd bydd gennym scrutiny committe ac audit committee.  Yn ôl un o'n cynghorwyr mae'r Cynulliad yn defnyddio pwyllgor craffu am scrutiny committee ac mae ef yn awyddus ein bod ni'n gwneud yr un fath er mwyn cysondeb.  Tybed beth mae pawb arall yn ei ddefnyddio am scrutiny committee a beth yw eich barn am ddefnyddio craffu am scrutiny a chadw archwilio am audit?