On Mon, Jan 14, 2002 at 04:31:37PM +0000, Dean Baker wrote: > ga i ddechrau dadl fan hyn? > > yn bersonol, wi'n defnyddio brysddolen ar gyfer hyperlink. I fi, mae'r hyperlink yn ffordd gyflym o gysylltu â safwe neu cyfeiriad e-bost, yn lle gorfod ei ail-deipio. Un clic a dych chi wedi cyrraedd y safwe. 'Bookmark' fyddai hynny? Mae 'hyper' yn dweud fod y cysylltiad yn rhywbeth mwy na'r cyffredin - nid cysylltiad syml rhwng pwynt A a B ond cysylltiad o fewn map o rhyng-gysylltiadau. Fasen i'n meddwl fod e'n bwysig cadw'r ystyr yna o fewn dogfennau ffurfiol os nad ar lafar. Ond yn gyffredinol, 'cyswllt/cysylltiadau' fyddai'n ddefnyddio. (yn hytrach na dolennau ond 'does gen i ddim rheswm da am hynny). I ddweud y gwir 'dwi wedi gweld 'link' wedi ei gyfieithu fel 'dolen gyswllt' sydd yn addas eto efallai mewn dogfen ffurfiol. Mae yna nifer o dermau arall am gysylltiadau yn cael ei ddefnyddio o fewn gwefannau. Mi fyddai 'brysddolenni' yn addas iawn ar gyfer rhywbeth oeddwn i yn trosi'n ddiweddar - 'quick links', sef rhestr byr o gysylltiadau i gyrraedd prif adrannau o fewn gwefan. -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>