gweler Geiriadur yr Academi am blister. Gair Gogleddol llafar yw swigen/swigod - rhai sebon, moch, broc mor, ar sawdl - pob math o swigod! Yr hen Gogs ma yn trio cymryd y byd drosodd eto! Mewn cyd-destun coginio, bubble yw ffrwtian, yn hytrach na byrlymu. Byrlymu mae fy spa newydd fodd bynnag! Tydi iaith yn beth diddorol! Magi ----- Original Message ----- From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, January 07, 2002 03:49 Subject: Re: Bubble-wrap > teulu lewis wrote: > > > > Papur swigod oedd enw fy mhlant i ar y deunydd gwych hwn. Nid lapio dim > > oeddynt da chi'n dallt, ond chwarae hefo fo, am oriau. Triwch o rhyw > > dro - gwell na Valium unrhyw ddydd. Lapio rhywbeth mewn papur swigod > > fyddwn i'n ei ddweud debyg - ond dwi'n hoffi swigod lapio. > > magi > > Enw newydd imi yw "swigod". Ydy o'n tarddu > o air "ysgwigen"? Am wn i, y gair Cymraeg am > "bubble" yw "bwrlwm". > > --Mark