Print

Print


Mae Geiriadur yr Academi yn rhoi 'pryfedog' am verminous.

Ffynonellau posibl eraill o eirfa o'r fath fyddai:

Cyfieithwyr cyfraith y Cynulliad, a chyfieithwyr eraill y Cynulliad
Awdur Geiriadur y Gyfraith
Cyfieithwyr yr awdurdodau lleol, e.e. Caerfyrddin, Gwynedd, Conwy,
Ceredigion
Yr Uned Safoni Termau ym Mangor
Hybu Iechyd Cymru

Berwyn

----- Original Message -----
From: "Eirlys Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 16, 2002 8:21 PM
Subject: verminous condition


> Roedd hi'n anodd penderfynu beth i'w nodi yn bwnc i'r neges yma -
> enghraifft yn unig yw "Permitting a child to be in a verminous condition".
>
> Mae'r ddogfen rwy'n ei chyfieithu yn cynnwys rhestr o droseddau swyddogol,
> (hynny yw, yr enwau sy'n swyddogol, am wn i, nid y troseddau!) Fyddwn i'n
> meddwl bod yna ormod o gwestiynau gen i i'w cynnwys yma.
>
> Cefais gyfieithiad ar gyfer ambell un yn "Geiriadur y Gyfraith", ond a oes
> gan unrhyw un syniad lle y gallwn i fynd am gymorth pellach?  Byddwn yn
> gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau.
>
>
> Eirlys W
>