Yma yn Uned Gyfieithu CBS Conwy, buom yn defnyddio'r cyfieithiad 'Pwyllgor Ymchwilio' am 'Scrutiny Committee'. Ond yn wyneb y ffaith fod y Cynulliad ac Archwilio Dosbarth ill dau'n defnyddio 'Pwyllgor Craffu' bellach, mae'n eithaf posibl y byddwn yn ail-drafod hyn.