'Sgrifennodd Mark Nodine: > Lowri Jones wrote: > > > > Fel un sy'n gweithio yn y Virtual Learning Centre - Rhithganolfan Ddysgu, rwy'n awgrymu taw'r cyfieithiad Cymraeg ar gyfer Virtual Learning Enviroment fyddai Rhithamgylchedd Dysgu. Yr wyf wedi bod yn defnyddio Rhithamgylchedd Dysgu yn y deunyddiau yr ydym wedi bod yn eu cynhyrchu yma felly, er cysondeb, fe fyddai'n braf gweld eraill yn defnyddio'r un peth. > > Mae Rhithamgylchedd Dysgu yn swnio'n iawn imi, ond > mae gen i broblem efo'r enw "Rhithganolfan Ddysgu". > Rhaid imi gyfaddef nad ydw i'n siarad Gymraeg fel mamiaith, > ond mae Rhithganolfan Ddysgu yn fy nharo fel petai'r > Ganolfan ei hun yn rhith yn lle'r dysgu sy'n rhith. Yn fy marn i y "Ganolfan Ddysgu" neu'r "Amgylchedd Dysgu" sydd yn rithwir nid un neu'r llall. 'man gwaith rhithwir' (virtual workplace). Mae 'Amgylchedd dysgu rhithwir' wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol gan rai. -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>