Dewis un o'r tri gair yna y bydda i'n ei
wneud:
1. 'Corff' os yw natur yr 'organisation' yn
annelwig neu os ydw i'n digwydd gwybod na wnaiff 'sefydliad' neu 'mudiad' mo'r
tro.
2. 'Sefydliad' os ydw i'n gwybod mai
sefydliad yw'r corff dan sylw.
3. 'Mudiad' os yw'r 'organisation' yn gorff tebyg i'r Urdd neu Gymdeithas yr
Iaith.
4. Gair arall posibl, os yw'r
'organisation' yn gymdeithas, fyddai 'cymdeithas' - ac mae hynny'n awgrymu y
gellid galw'r 'organisation' yn 'cwmni' neu'n 'partneriaeth' neu beth bynnag yw
union natur yr 'organisation'.
Bu tuedd ar un adeg i alw 'organisations' yn
'trefnyddiaethau', ond go brin bod y gair wedi cydio.
Does dim ateb hawdd na chyffredinol i'r broblem
hon, hyd y gwn i.
Problem y Gymraeg yw bod gan y Saesneg ormod o
eiriau!
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Monday, December 03, 2001 9:04
PM
Subject: organisation
Corff / Mudiad / Sefydliad
Pryd a pham? Oes geiriau eraill addas ar
gael?
Catrin