Mae sawl dadl ymarferol dros beidio â chyfieithu enwau strydoedd ac ati. I ddechrau, mae'r gwasanaeth post yn ddigon gwael fel y mae, heb ddisgwyl iddyn nhw gyplysu "Rhodfa'r Ficerdy" ar amlen â "Vicarage Drive" ar arwydd swyddogol y stryd. Hefyd, bwrwch fod gan Gaerdydd "Oak Street", a chithau'n trosi'r enw yn "Heol y Dderwen" ... heb sylweddoli fod Heol y Dderwen ar gael yng Nghaerdydd eisoes. Pa obaith sy gan fechgyn a merched y Post wedyn? Wedyn, os yw strydoedd fel Vicarage Road yn cael eu Cymreigio, bydd y di-Gymraeg (a'r gwrth-Gymraeg) yn gallu cyfiawnhau dadlau dros droi pob Heol-y-bryn uniaith yng Nghymru yn Hill Street hefyd (digon i godi'r felan - yr Hill Street Blues). Rwy'n credu mai'r awdurdodau lleol sy'n dynodi enwau swyddogol y strydoedd yn eu hardal, a'r peth gorau i'w wneud - efallai - yw dilyn arfer yr awdurdod lleol perthnasol. -----Original Message----- From: Neil Shadrach [mailto:[log in to unmask]] Sent: 17 December 2001 10:20 To: [log in to unmask] Subject: drive [ Ymddiheuriadau os ych chi wedi gweld y cwestiwn yn barod ar restr arall ] Beth fyddai "Vicarage Drive" yn Gymraeg? "Rhodfa'r Ficerdy"? Oes 'na awdurdod o unryw fath yn ymwneud a chyfieithu enwau heolydd? Rwyf wedi trio Cyfeiriadau Cymru ( http://www.cyfeiriadaucymru.com/ ) ond chafodd fy ymholiadau ddim ymateb. _____________________________________________________________________ This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan service. For further details, please see http://www.gsi.gov.uk/main/gncnotices/gncinformationnotice5_2001.pdf, or contact your departmental help desk. The Message Labs trial has been extended until further notice. In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.