Diolch Berwyn.  Dyna oedd fy theori, ond doeddwn i ddim yn gwybod pam!  Dwi wrthi yn prawfddarllen rhwybeth sy'n fy nghyrru'n wallgo!! (dwi'n gweld camgymeriadau ym mhobman!)
 
Catrin
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, November 30, 2001 8:16 PM
Subject: Re: Treiglo ar ôl Uned

Uned Polisi Cymdeithasol, ond Uned Bolisi. Hynny yw, ar o^l enw benywaidd, bydd dyn (a menyw) yn treiglo'r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad a^'r enw benywaidd, does dim treiglad. Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
 
Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd (neu, a defnyddio termau Peter Wynn, maen nhw'n sbarduno treiglad). Enghraifft o hynny yw 'yr W^yl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">catrin alun
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, November 30, 2001 5:08 PM
Subject: Treiglo ar ôl Uned

Pryd a pham plîs?  Dwi'n dechrau hel meddyliau ynghylch y peth ac yn methu penderfynu!  Mae fy ngreddf ieithyddol newydd fynd i gysgu dros y gaeaf efo'r wiwerod!!
 
Uned Polisi Cymdeithasol neu Uned Bolisi Cymdeithasol?
 
(enghraifft yn unig)
 
Diolch
Catrin