Pan oeddwn i'n byw yn Gresffordd flynyddoedd maith yn o^l, byddai perchennog y siop bapurau leol yn arfer so^n am 'catching the Grozzville buz to town'! Berwyn ----- Original Message ----- From: John D Williams To: [log in to unmask] Sent: Monday, December 03, 2001 3:22 PM Subject: Treiglo ar ôl Uned Ie Berwyn. Mae'ch dadl yn ddilys mae'n debyg. Doeddwn i erioed wedi meddwl am y gwahaniaeth ystyr a all fod rhwng ffair gaeaf a ffair aeaf, ond dwi'n derbyn sut mae gweld fod yna un. Gyda llaw, mae gen i deulu a aeth o Gymru flynyddoedd yn ôl i fyw i gyffiniau Wakefield yn Swydd Efrog ac mae gwerinwyr y fro yn treiglo yn feddal. Nid Bradford a glywir ond Bratford heb os naconi bai. Dwi'n cofio Bedwyr yn dweud fod 'y Gymraeg yn ddwfn yn naear yr Hen Ogledd'. Dyna ni yn ardal Elfed - Elmet heddiw ynde. Ta beth - sôn am Americanwyr yn treiglo, geiriau fel dudy yn lle duty, onid math ar dreiglad trwyno a geir yn Saesneg wrth negyddu ansoddeiriau - accessible, inaccessible, operable ac inoperable ond perfect ac imperfect, impossible, imprison etc.? John