----- Original Message -----
Sent: Friday, December 07, 2001 10:24
AM
Subject: Re: Gwiriwr Sillafu Office
XP
O dan 'Tools' yn yr adran 'language' wedyn 'set language' ydi'r blwch
sy'n dweud 'do not check spelling or grammar' wedi'i dicio? Os ydi, mae angen
ei ddad-dicio cyn i'r rhaglen wirio'r ddogfen - bydd angen pennu'r iaith hefyd
wrth gwrs.
Delyth
----- Original Message -----
Sent: Thursday, December 06, 2001 10:21
PM
Subject: Gwiriwr Sillafu Office
XP
Mae ffrind i mi wedi cael Office XP ac wedi
methu cael y gwiriwr sillafu Cymraeg i weithio. Ar ôl gofyn i'r
rhaglen wirio'r ddogfen, mae nodyn yn dod ar y sgrîn gan honni fod y "spell
check (yn) complete" - ond dydio ddim yn gwirio o gwbl, dim ond rhoi'r
nodyn ar y sgrîn yn syth bin, waeth beth sydd wedi ei deipio - o Gymraeg
gwallus, i Saesneg i rwtsh llwyr.
Unrhyw awgrymiadau plîs!
Catrin