Maip, wrth gwrs! (Sori, hen jo^c) Yn rhyfedd iawn, roeddwn i'n siarad ddoe a^ dyn a fagwyd yn Abergwili yn nauddegau'r ganrif ddiwethaf ac o wybod am fy niddordeb yng ngeiriau tafodieithol Shir Ga^r fe ofynnodd yn sydyn i mi "Ydych chi'n gyfarwydd a^'r gair 'ymhw^edd'?" Fel mae'n digwydd, roeddwn i wedi clywed fy nhad (a fagwyd yng Nghwm Tawe ond a^'i deulu'n dod o ogledd Sir Gaerfyrddin) yn ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd a bydd dyn yn dal i glywed y to hy^n yn ei ddefnyddio. Am wn i mai 'began' y bydd y to iau yn ei ddefnyddio ... Berwyn ----- Original Message ----- From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, December 04, 2001 10:05 AM Subject: Re: Re: Treiglo ar ôl Uned > Ond os yden nhw'n deud dishgwl yn lle edrych, ac erfyn yn lle disgwyl, be > maen nhw'n ddeud yn lle erfyn? > > Geraint > ----- Original Message ----- > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Monday, December 03, 2001 4:30 PM > Subject: Re: Treiglo ar ôl Uned > > > > Mae'r cydweithiwr yn llygad ei le - 'dishgwl' fydda i'n ei ddweud hefyd am > > 'to look' a bydd rhai pobl yma yn y de yn dweud 'erfyn' am 'disgwyl'. > > > > Rwy'n cofio Dr Enid Pierce Roberts yn tynnu sylw at dreiglad a oedd i'w > gael > > yn iaith y gogledd, sef 'y neuadd bentref' lle byddai pobl y de'n dweud > > 'neuadd y pentref'. Hyn, mae'n debyg, sy'n peri i bobl so^n am 'y Bwrdd > > Iaith' yn hytrach nag am 'Bwrdd yr Iaith', er y byddai'n amhosibl dweud 'Y > > Bwrdd Iaith Gymraeg'. Ond nid rhesymeg yw sylfaen iaith: y syndod, > efallai, > > yw ei bod hi mor rhesymegol ag yw hi. > > > > Berwyn > > > > ----- Original Message ----- > > From: "John D Williams" <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Monday, December 03, 2001 3:57 PM > > Subject: Treiglo ar ôl Uned > > > > > > > Mae llawer iawn o hen bobl/pobl hyn Wrecam sydd wedi golli eu Cymraeg, > > > yn dal i ddweud pethau hyll fel 'the Grosville' ac yn sôn am 'catching > > > the buz'. Wrth gwrs, yr hyn sydd yma yw olion o'r Gymraeg - y treiglo > > > wedi llithro rywsut trwodd i'r Saesneg a'r bobl sydd wedi colli eu > > > Cymraeg ddim yn gwybod pam maen nhw'n siarad fel hynny! Mae hynny yn > > > beth digon trist. Ydy'r math yma o beth yn digwydd mewn rhannau eraill > > > o Gymru? Dwi'n cofio pan oeddwn i'n byw ym Mhenarth, rywun yn dweud > > > wrtha'i, 'in Cardiff, sex is what the coal comes in!'! - sy'n gwbl > > > groes i'r a yn troi yn e fel yn y gair Parc - a glywir fel Perc - gan > > > rai o'n cyd-Gymry. > > > Dwi'n rhannu swyddfa efo rhywun sy'n dweud 'dishgwl' i gyfleu 'edrych'. > > > Ie. Mae iaith yn beth astrus! > > > John. > > > >