Mae'n hyfryd gweld bod cynifer o gyfranwyr welsh-termau-cymraeg wedi cael addysg glasurol; yr wyf yn siwr y byddai'r cylch trafod CLASSICS-TEACHING yn falch iawn o'u cyfraniadau (i ychwanegu at yr wyth neu naw neges maent wedi eu derbyn eleni!) Ond o ddifri... mae nifer o gyfranwyr wedi mynegi anesmwythder yngly^n â rhai negeseuon; felly gaf i yn garedig geisio ffrwyno rhai pethau. Mae'r negeseuon i gyd yn cael eu harchifo, ac efallai y byddant o fudd i'r oesoedd a ddêl, ac mae modd i unrhyw un o'r cyhoedd eu gweld ar http://www.jiscmail.ac.uk/lists/WELSH-TERMAU-CYMRAEG.html Ond efallai na fydd yr oesoedd a ddêl yn amgyffred hiwmor, clyfrwch, ac eironi ôl-strwythurol! Ceisiwch gadw at y canllawiau cyffredinol: http://www.jiscmail.ac.uk/docs/guidelines.htm ac at y rhai penodol i welsh-termau-cymraeg: http://www.jiscmail.ac.uk/files/WELSH-TERMAU-CYMRAEG/Croeso_a_chanllawiau.htm Teimlaf bod naws hyfryd a bywiog yn perthyn i'r trafodaethau ac mae'n bwysig ein bod yn gwarchod hynny. Ond mae'n bwysig hefyd cofio bod llawer iawn o'r aelodau yn bobl broffesiynol brysur ac y gall pentyrrau o negeseuon heb gynnwys perthnasol fod yn fwrn. Felly, blantos, ymbwyllwch - ac fe fydd Siôn Corn yn garedig. Nadolig Llawen i bawb. -- ------------ J P M Jones MA PhD CChem FRSC Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education Trefenai Ffordd Caergybi Bangor Gwynedd LL57 2PX tel +44 1248 382955/383013 ffacs +44 1248 383990