Paul Birt wrote: > > Yn ôl Cicero a Livy, yr arfer yw defnyddio `'gratias agere'; e.e > Lentulo nostro egi per litteras tuo nomine gratias diligenter > Diolchais yn galonnog i'n cyfaill Lentulus drwy lythyr yn eich enw' > (Epistulae ad familiares I, x). Diolch, Paul. Mae fy Lladin yn dipyn simsan erbyn hyn ar o+l llawer o flynyddoedd o'i anwybyddu. Mae fy mab yn ei ail flwyddyn o astudio Lladin. Yn fuan bydd o'n fy masio yn ei allu efo'r iaith. A sut wyt ti, hwyrach. Dwi'n meddwl y mae hi mwy na deg mlynedd ers imi dy weld (Cwrs Cymraeg bro Niagara)! --Mark