Tydy enwau strydoedd ddim bob amser yn cyfateb rhwng y naill iaith a'r llall - yng Nghaernarfon er enghraifft, Stryd Pedwar a Chwech (yr un enwog!!) ydy Northgate Street, a Mountain Street (dwi'n credu) ydy Pentre Newydd (Bridge Street = Y Bont Bridd, Stryd Porth Mawr = High Street ayb). Dwi'n meddwl bod hyn oherwydd fod yr enwau swyddogol gwreiddiol yn Saesneg, a'r enwau Cymraeg yn rhai fyddai'n cael eu harfer ar lafar gwlad gan y werin (mae nhw'n dueddol o fod llawer iawn mwy disgrifiadol), sydd bellach yn cael eu derbyn yn 'swyddogol'. Difyr 'te! Meinir