Mae "Canu'r Felan" a "Canu'r Blw^s" wedi eu defnyddio mewn erthyglau a llyfrau Cymraeg. Canu'r Felan ddefnyddiodd Delyth Prys yn ei haddasiad Cymraeg o "Eiriadur Cerddoriaeth Rhydychen", a hwn oeddwn i yn ei arddel yn fy nyddiau fel athro cerdd. Gwelais "Canu'r Byd" sawl tro yn lle "World Music", er nad wyf yn cytuno â hwn fy hun. "Cerddoriaeth y Byd" oeddwn i yn ei ddefnyddio. Hyd y gwela i, mae Americanwyr (a phobl mewn anoracs sy'n mynd o amgylch siopau recordiau ) yn defnyddio "roots" i gyfeirio at "wreiddiau" canu gwerin, canu gwlad, jazz, blues, rock a phob math o bethau eraill. Y peth gorau i'w wneud yn yr achos hwn felly, yn fy nhyb i, ydi edrych ar y cyd-destun (os oes cyd-destun wrth gwrs). ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, December 07, 2001 11:21 AM Subject: "world music", "blues & roots" > "world music" a "blues & roots" > Rhyw syniad am y mathau hyn o gerddoriaeth ? > Diolch > Sian >