Er ei bod hi'n ddigon teg dweud bod Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yn cydnabod enwau dwyieithog, mae Paragraff 3.1 Cynllun Iaith Gymraeg Swyddfa'r Post yn dweud hyn: 'Yr awdurdodau lleol, yn hytrach na Swyddfa'r Post, sy'n penderfynu ar gyfeiriadau swyddogol lleoedd a ffyrdd, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw ein hysbysu o unrhyw newid yn y ffurfiau swyddogol ar gyfeiriadau. Byddwn yn ymgynghori a^'r awdurdodau lleol yng Nghymru yn flynyddol i wirio enwau'r ffyrdd a ddangosir yn ddwyieithog.' Mae'n siw^r y byddai hi o gymorth petai unrhyw un sydd a^ chasgliad cyflawn o enwau dwyieithog (yn enwedig rhai diweddar) strydoedd tref neu bentref yn rhoi gwybod i Swyddfa'r Post. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, December 21, 2001 11:04 AM Subject: drive > Ces i'r ymateb canlynol gan y cyngor lleol ( Nedd Port Talbot ): > > > Mae gan yr Awdurdod Bolisi Iaith Gymraeg o lunio pob arwydd yn ddwyieithog, > > a lle caiff hen arwyddion eu hadnewyddu gosodir arwyddion dwyieithog yn eu lle pan fo hynny'n briodol. > > Mae'r Post Brenhinol yn cydnabod enwau dwyieithog, a byddwn yn disgwyl y byddai cyfeirio at eich stryd fel > > Rhodfa'r Ficerdy yn dderbyniol ac na ddylai achosi unrhyw drafferthion. > > Gan nad oes neb wedi beirniadu'r cyfieithiad byddaf yn cymryd ei fod yn dderbyniol ym mhob ffordd. >