Petaech am osgoi awgrymu bod y ddeddf yn diwygio hawliau cyflogaeth (er i'r ddeddf wneud hynny, wrth gwrs) gellid newid y drefn yn Gymraeg: Deddf Hawliau Cyflogaeth a Diwygio Undebau Llafur 1993. Owen -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary including [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 04 December 2001 16:14 To: [log in to unmask] Subject: Re: The Trade Union Reform and Employment Rights Act 1993 'Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993', mae'n debyg, er bod y Gymraeg yn awgrymu bod y ddeddf yn diwygio Hawliau Cyflogaeth hefyd. (Mae'n ddigon tebyg ei bod hi wedi gwneud hynny.) Fe ges i fy nhemtio i roi 'Diwygio'r Undebau Llafur' ond efallai y byddai'r fannod ychydig yn gamarweiniol gan y byddai'r ddeddf yn gymwys i undebau llafur a oedd heb eu sefydlu ar y pryd. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Bethan Evans" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, December 04, 2001 3:41 PM Subject: The Trade Union Reform and Employment Rights Act 1993 > Unrhyw syniadau? Dwi wedi bod ar y wefan, ond wedi methu gweld y Gymraeg! > Diolch > Bethan >