Cweit reit, hefyd. Fe allai 'trefnyffiaeth' fod yn ddefnyddiol mewn cyd-destun megis 'trefnyddiaeth fewnol y corff dan sylw', ond credaf fod Berwyn wedi taro'r hoelen ar ei phen. Tim -----Original Message----- From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]] Sent: Monday, December 03, 2001 9:43 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: organisation Dewis un o'r tri gair yna y bydda i'n ei wneud: 1. 'Corff' os yw natur yr 'organisation' yn annelwig neu os ydw i'n digwydd gwybod na wnaiff 'sefydliad' neu 'mudiad' mo'r tro. 2. 'Sefydliad' os ydw i'n gwybod mai sefydliad yw'r corff dan sylw. 3. 'Mudiad' os yw'r 'organisation' yn gorff tebyg i'r Urdd neu Gymdeithas yr Iaith. 4. Gair arall posibl, os yw'r 'organisation' yn gymdeithas, fyddai 'cymdeithas' - ac mae hynny'n awgrymu y gellid galw'r 'organisation' yn 'cwmni' neu'n 'partneriaeth' neu beth bynnag yw union natur yr 'organisation'. Bu tuedd ar un adeg i alw 'organisations' yn 'trefnyddiaethau', ond go brin bod y gair wedi cydio. Does dim ateb hawdd na chyffredinol i'r broblem hon, hyd y gwn i. Problem y Gymraeg yw bod gan y Saesneg ormod o eiriau! Berwyn ----- Original Message ----- From: catrin alun <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Sent: Monday, December 03, 2001 9:04 PM Subject: organisation Corff / Mudiad / Sefydliad Pryd a pham? Oes geiriau eraill addas ar gael? Catrin