Ar bob campws fan hyn, mae gennym Campus Manager, a bob un yn fenyw (dw i'n credu!). Rheolwr Campws yw eu teitlau hwythau - fel y crybwyllwyd eisioes y gair sy'n wyrywaidd, nid y person sy'n gwneud y swydd. Hwre am synnwyr cyffredin! Ond beth am Principal/Headmaster/Headmistress - ai "Prifathro/Prifathrawes" ddylai gael ei nodi, neu newid y gair i "Pennaeth"? Ga i ofyn i'r panel, fel wedodd Catrin Alun yn gynt. Deano Dean Baker Pennaeth Cyfieithu / Head of Translation 01554 748115