----- Original Message -----
Sent: Friday, November 30, 2001 8:59
AM
Subject: Re: Terfyniadau
wr/wraig/ydd
Mae hwn yn faes dyrys gan fod gwahaniaeth barn
ymhlith merched a menywod am fuddioldeb bod yn 'gynhwysol' a chynnwys
amrywiadau fel -wr/-wraig/-ydd. Mae'r rhai sy'n teimlo'n gryf am y gorthrymu a
fu ar ferched/fenywod yn y orffennol yn tueddu i fod o blaid cynnwys yr
amrywiadau, a'r rhai sy'n teimlo'n hyderus ynghylch eu benyweidd-dra os dyna'r
gair iawn) fel petaen nhw'n ddigon hapus i ddefnyddio'r terfyniad -wr.
Ar y llaw arall, clywyd hanes am y Comisiwn Cyfle Cyfartal, os cofiaf yn iawn,
yn bygwth peidio talu cyfieithydd oni bod yr amrywiadau'n cael eu cynnwys
yn y cyfieithiad bob tro!
O ran 'rheolwr'/rheolwraig', y problem ynghylch
'rheolydd' yw ei fod yn air da am 'regulator' (ar injan ste^m ac fel person!).
Ac a oes gair sy'n fwy tebyg o beri i'ch dannedd gosod ddod yn rhydd na
'cyfarwyddydd'?
Efallai y dylwn ofyn i'r rhyw deg am eu sylwadau
cyn mentro i'r faes!
Berwyn
(aelod o'r rhyw hyll)
----- Original Message -----
Sent: Thursday, November 29, 2001 11:04
PM
Subject: Terfyniadau wr/wraig/ydd
Ar ôl darllen ymateb Berwyn i'r Single
Relationship Manager, fe'm hatgoffwyd bod angen cyngor arna'i.
Beth yw'r arfer bellach, yn y byd hynod
wleidyddol gywir hwn, ynghylch terfyniadau ar eiriau fel rheolwr/wraig/ydd,
llywodraethwr/wraig/ydd a.y.y.b.
Dwi'n cael fy hun yn defnyddio rheolwr pan mai
dyn sydd yn y swydd a rheolydd ar gyfer merch!!! Dwi'n ymwybodol nad
yw hyn yn gwneud synnwyr - felly beth yw barn y panel? h.y.
chi!
Diolch
Catrin