Mewn hysbysebion swyddi ac ati, dw i o blaid dangos mewn rhyw ffordd y gwahoddir ceisiadau gan ddynion a menywod ond fel arall dw i'n tueddu i ddefnyddio '-wr', yn rhannol er mwyn osgoi pethau fel "rheolwraig gyfarwyddwraig". Sian ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Friday, November 30, 2001 8:59 AM Subject: Re: Terfyniadau wr/wraig/ydd Mae hwn yn faes dyrys gan fod gwahaniaeth barn ymhlith merched a menywod am fuddioldeb bod yn 'gynhwysol' a chynnwys amrywiadau fel -wr/-wraig/-ydd. Mae'r rhai sy'n teimlo'n gryf am y gorthrymu a fu ar ferched/fenywod yn y orffennol yn tueddu i fod o blaid cynnwys yr amrywiadau, a'r rhai sy'n teimlo'n hyderus ynghylch eu benyweidd-dra os dyna'r gair iawn) fel petaen nhw'n ddigon hapus i ddefnyddio'r terfyniad -wr. Ar y llaw arall, clywyd hanes am y Comisiwn Cyfle Cyfartal, os cofiaf yn iawn, yn bygwth peidio talu cyfieithydd oni bod yr amrywiadau'n cael eu cynnwys yn y cyfieithiad bob tro! O ran 'rheolwr'/rheolwraig', y problem ynghylch 'rheolydd' yw ei fod yn air da am 'regulator' (ar injan ste^m ac fel person!). Ac a oes gair sy'n fwy tebyg o beri i'ch dannedd gosod ddod yn rhydd na 'cyfarwyddydd'? Efallai y dylwn ofyn i'r rhyw deg am eu sylwadau cyn mentro i'r faes! Berwyn (aelod o'r rhyw hyll) ----- Original Message ----- From: catrin alun To: [log in to unmask] Sent: Thursday, November 29, 2001 11:04 PM Subject: Terfyniadau wr/wraig/ydd Ar ôl darllen ymateb Berwyn i'r Single Relationship Manager, fe'm hatgoffwyd bod angen cyngor arna'i. Beth yw'r arfer bellach, yn y byd hynod wleidyddol gywir hwn, ynghylch terfyniadau ar eiriau fel rheolwr/wraig/ydd, llywodraethwr/wraig/ydd a.y.y.b. Dwi'n cael fy hun yn defnyddio rheolwr pan mai dyn sydd yn y swydd a rheolydd ar gyfer merch!!! Dwi'n ymwybodol nad yw hyn yn gwneud synnwyr - felly beth yw barn y panel? h.y. chi! Diolch Catrin